Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
11 Tachwedd 2019
SL(5)465 – Rheoliadau Materion Gwledig a’r Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r is-ddeddfwriaeth a ganlyn sy'n ymwneud â diogelu'r amgylchedd a bwyd:
· Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”)
· Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 (“Rheoliadau 2010”)
· Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”)
Yn fwyaf nodedig, mae'r Rheoliadau hyn:
· yn mewnosod darpariaethau newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gorfodi hysbysu Gweinidogion Cymru am ddifrod amgylcheddol perthnasol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol yn ymarferol ar ôl cyflwyno hysbysiad i weithredwr cyfrifol o dan reoliad 18 o Reoliadau 2009;
· yn diwygio Rheoliadau 2010 a 2011 i sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn gywir mewn perthynas â'r safonau marchnata cyfredol sy'n ymwneud ag wyau, cywion a chig dofednod.
Rhiant-Ddeddf: Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972
Fe’u gwnaed ar: 28 Hydref 2019
Fe’u gosodwyd ar: 30 Hydref 2019
Yn dod i rym ar: